Datganiad Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Ein nod yw bod mor glir â phosibl am sut a pham rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch ar y wefan hon. Mae'r datganiad hwn yn egluro sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon.

Cwmpas

Mae'r datganiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â'r gwasanaethau rhyngrwyd a ddarperir fel rhan o Gyfrifiad 2011 ac Ymarfer 2009 y Cyfrifiad. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys yr holiadur ar-lein, y ganolfan gymorth ar-lein a cheisiadau ar-lein am holiaduron ychwanegol a gwasanaethau eraill.

Pa wybodaeth a gesglir gennym a pham?

Rydym yn casglu tri math o wybodaeth gennych: yr atebion a roddir gennych pan fyddwch yn llenwi ein holiadur ar-lein, eich enw a'ch cyfeiriad (os byddwch yn gofyn am i unrhyw ddeunyddiau gael eu hanfon atoch) a gwybodaeth am y defnydd o'r wefan.

Caiff eich atebion eu cyfuno â'r rhai hynny a roddir mewn holiaduron papur a ddychwelir. Defnyddir y wybodaeth hon i gynhyrchu ystadegau sy'n helpu'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol i gynllunio a dyrannu arian i wasanaethau cyhoeddus a chefnogi ymchwil bellach dros y deng mlynedd nesaf.

Dim ond at ddiben postio deunydd ychwanegol atoch pan fyddwch wedi gofyn amdanynt y caiff eich enw a'ch cyfeiriad eu defnyddio. Gallwch naill ai nodi eich enw a'ch cyfeiriad eich hun, neu roi rhif adnabod yr holiadur a argraffir ar yr holiadur papur er mwyn i ni allu eu cael yn awtomatig. Ni throsglwyddir eich enw na'ch cyfeiriad i unrhyw un o adrannau eraill y Llywodraeth na sefydliad trydydd parti. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol ar y cyfrifiadur a ddefnyddir gennych.

Caiff y wybodaeth a gesglir gennym gan y defnydd o'r wefan ei dadansoddi i ddeall sut y mae'r wefan yn cael ei defnyddio. Mae angen i ni wneud hyn er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithiol ac yn darparu'r wybodaeth gywir i ategu'r cyfrifiad. Ni ein hunain sy'n dadansoddi'r wybodaeth hon - ac nid ydym yn ei throsglwyddo i unrhyw drydydd parti i'w dadansoddi.

Pwy fydd yn gweld eich gwybodaeth?

Dim ond y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n defnyddio eich gwybodaeth. Ni chaiff ei rhannu ag unrhyw un o adrannau eraill y Llywodraeth, ond efallai y bydd ar gael i nifer fach o ymchwilwyr achrededig. Rheolir pwy sy'n cael gweld eich gwybodaeth yn llym er mwyn sicrhau cyfrinachedd.

Am faint rydym yn cadw eich gwybodaeth?

Mae SYG yn cadw eich gwybodaeth am 100 mlynedd, yna bydd ar gael i haneswyr teulu a phartïon eraill â diddordeb.

Beth yw cwcis a pham rydym yn eu defnyddio?

Mae cwcis yn ffeiliau bach electronig a roddir ar eich system cyfrifiadurol er mwyn cael mynediad i'n gwefannau. Rydym yn defnyddio'r ffeiliau hyn er mwyn rhoi profiad gwell i chi fel defnyddiwr. Er enghraifft, os byddwch yn gadael yr holiadur ar-lein cyn i chi ei lenwi, bydd y cwci yn sicrhau bod y system yn mynd â chi'n ôl i'r dudalen roeddech yn ei llenwi cyn i chi adael y wefan. Nid yw'r cwci yn ceisio casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch na'ch defnydd o'r rhyngrwyd.

Diogelwch

Yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, Deddf Cyfrifiad 1920, Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 a Deddf Cyfrifiad (Gogledd Iwerddon) 1969, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych. Rydym yn defnyddio technolegau diogelwch blaenllaw, gan gynnwys meddalwedd amgryptio haen socedi diogel (SSL) safon y diwydiant wrth brosesu gwybodaeth sensitif er mwyn diogelu eich data ac rydym yn cymhwyso safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad iddo heb awdurdod.

Gwe-rwydo

Mae gwe-rwydo yn cyfeirio at e-byst twyllodrus a dulliau eraill o gyfathrebu sydd fel arfer yn ceisio eich twyllo i ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Mae e-byst gwe-rwydo yn aml yn ymddangos fel petaent yn dod o ffynonellau cyfreithlon. Ni fydd SYG byth yn anfon e-bost atoch â dolen cyfeiriad gwe nac yn gofyn i chi nodi neu gadarnhau eich manylion diogelwch.

Ar ôl ymarfer y cyfrifiad, byddwn yn e-bostio nifer o bobl sydd wedi defnyddio'r holiadur ar-lein, gan ofyn am adborth. Os byddwn yn anfon un o'r e-byst hyn atoch, ni fyddwn yn gofyn i chi am eich manylion mewngofnodi na gwybodaeth bersonol arall.
 

Diogelu eich hun

Er y byddwn yn sicrhau y caiff eich gwybodaeth ei chasglu a'i chadw'n ddiogel, gallwch gymryd rhai camau ychwanegol i ddiogelu eich hun a'ch gwybodaeth bersonol wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon.
 
  • Cadw eich Cod Mynediad ar gyfer y We a Rhif Adnabod yr Holiadur yn ddiogel. Mae'n benodol i'ch cartref a dylid ei drin yn wybodaeth gyfrinachol.
    Sicrhau bod gennych y fersiynau diweddaraf o feddalwedd porwyr gwe a waliau tân.
  • Dim ond defnyddio gwefan swyddogol y cyfrifiad i gael mynediad i'r holiadur ar-lein, gan ddefnyddio'r cyfeiriad a argraffir ar dudalen flaen eich holiadur papur.
  • Cofio allgofnodi a chau eich porwr ar ôl defnyddio'r wefan. Efallai na fydd cau tab yn eich porwr yn ddigon. Noder y bydd y wefan yn dod â'ch sesiwn i ben yn awtomatig ar ôl deng munud o anweithgarwch.
  • Ar ôl i chi gyflwyno eich holiadur, argymhellwn y dylech argraffu eich derbynneb gadarnhau a dinistrio eich holiadur papur yn ddiogel. Os oes gennych beiriant rhwygo, dylech rwygo tudalen flaen eich holiadur papur sy'n cynnwys eich cyfeiriad a'ch Cod Mynediad ar gyfer y We. Fel arall, rhwygwch y dudalen yn ddarnau mân a'i hailgylchu.
  • Ni fyddwn byth yn anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth bersonol nac yn cynnwys dolen i unrhyw wefan arall, gan gynnwys gwefan swyddogol y cyfrifiad. Os byddwch yn cael e-bost o'r fath sy'n edrych fel petai wedi'i anfon gennym, dylech ei ddileu.

A fydd rhywun yn cysylltu â mi?

Os ydych wedi dechrau'r holiadur ar-lein ond heb ei gyflwyno, byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch atgoffa ar ddiwedd mis Hydref 2009 (os bydd eich cyfeiriad e-bost gennym). Ni fydd yr e-bost atgoffa hwn yn cynnwys dolen cyfeiriad gwe nac yn gofyn i chi nodi neu gadarnhau eich manylion diogelwch.

Yn ddiweddarach, byddwn yn e-bostio nifer o gartrefi sydd wedi defnyddio'r holiadur ar-lein ar gyfer Ymarfer 2009 y Cyfrifiad, gan ofyn am eu hadborth.

Cyflwyno a dileu data

Os byddwch yn dechrau'r holiadur ar-lein ond yn anghofio clicio ar y botwm 'cyflwyno ar y diwedd, byddwn yn casglu unrhyw wybodaeth a roddir gennych a'i hychwanegu at y gronfa ddata ymatebion. Byddwn yn gwneud hyn pan na fydd yr holiadur ar-lein bellach ar gael.

Os byddwch yn dechrau'r holiadur ar-lein ond yn penderfynu na hoffech barhau ag ef, gallwch ddileu'r ymatebion a roddwyd gennych, ar yr amod nad ydych eisoes wedi clicio ar y botwm 'cyflwyno'.

Newidiadau i'r polisi hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn diweddaraf ar y dudalen hon. Drwy adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd byddwch yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth a gesglir gennym, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu ag unrhyw bartïon eraill.

 


Partneriaid
Gweithio i in
Myfywyr
Canolfan y cyfryngau