Telerau ac amodau
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth yn www.cyfrifiad.gov.uk yn gywir. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu, mewn modd diamwys nac ymhlyg, ei chywirdeb ac ni dderbyniwn unrhyw atebolrwydd am wallau neu hepgoriadau. Nid ydym yn gyfrifol am y ffordd y caiff y wybodaeth ei defnyddio, ei dehongli neu pa mor ddibynadwy ydyw.Mae'r wefan hon yn defnyddio mesurau diogelwch i atal y deunydd a reolir gennym rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio a'i newid. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am y ffordd y caiff y data ei newid neu ei drin ar ôl ei roi ar y wefan.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn destun amodau hawlfraint y Goron, oni nodir fel arall. Gall y wybodaeth ar y wefan hon newid ar unrhyw adeg heb rybudd. Gall y telerau ac amodau ar y wefan hon newid ar unrhyw adeg heb rybudd. Nid ydym yn gwarantu bod y wybodaeth yn www.cyfrifiad.gov.uk yn addas at unrhyw ddiben penodol.
Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill ac o wefannau eraill. Nid ydym yn ardystio'r gwefannau hyn ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio nac y bydd y tudalennau rydym yn darparu dolenni ar eu cyfer ar gael.




