Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am Gyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr, gallwch gysylltu â ni ar y ffôn, drwy e-bost neu drwy'r post.

I gael gafael ar ffeithiau a ffigurau diddorol am gyfrifiadau'r gorffennol yng Nghymru a Lloegr, ffoniwch:

Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyfrifiad
01329 444972
9am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener
(ac eithrio gwyliau cyhoeddus a gwyliau'r banc y DU)

Minicom (i bobl fyddar a thrwm eu clyw) - +44 (0) 1329 444 517

Dylai'r tîm hwn allu helpu gydag ymholiadau cyffredinol am Gyfrifiad 2011 cyn diwrnod y cyfrifiad, dydd Sul 27 Mawrth 2011.

Bydd llinell gymorth Cyfrifiad 2011 yn dechrau ddydd Gwener 4 Mawrth 2011 er mwyn cynnig help gyda chwestiynau Cyfrifiad 2011 gan gynnig cymorth yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ogystal â 58 iaith arall.

Nodwch y gallai'r galwadau gael eu monitro at ddibenion hyfforddi.

neu anfonwch e-bost i:

census.customerservices@ons.gov.uk

Neu ysgrifennwch i:

Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyfrifiad
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Room 4300S
Segensworth Road
Titchfield
Hants PO15 5RR

Recriwtio

I gael gwybod am swyddi Cyfrifiad 2011, cysylltwch â threfnwyr yr ymgyrch recriwtio:

+44 (0) 1256 383 847
www.censusjobs.co.uk

Caiff 35,000 o weithwyr maes eu recriwtio ar gyfer Cyfrifiad 2011, gan gynnwys swyddogion gwirio cyfeiriadau, rheolwyr gwirio cyfeiriadau, rheolwyr ardal, cynghorwyr cymunedol, cydgysylltwyr y cyfrifiad, casglwyr y cyfrifiad a chyfrifwyr arbennig. Ewch i'r wefan swyddi i weld y swyddi gwag diweddaraf.

Diolch am ymweld â www.cyfrifiad.gov.uk



17 August 2010
Partneriaid
Gweithio i in
Myfywyr
Canolfan y cyfryngau