Gweithio i ni
Caiff tua 35,000 o staff maes eu recriwtio ledled Cymru a Lloegr. Dechreuodd yr ymgyrch i recriwtio swyddogion gwirio cyfeiriadau a chydgysylltwyr gwirio cyfeiriadau ym mis Ionawr, a daeth i ben ym mis Mawrth. Dechreuoedd y broses o recriwtio rheolwyr ardal a chynghorwyr cymunedol ym mis Mai a daeth i ben ym mis Gorffennaf. Yn ystod yr hydref byddwn yn penodi casglwyr holiaduron Cyfrifiad 2011, staff cydymffurio y cyfrifiad a thimau arolwg cwmpas y cyfrifiad. Bydd yr ymgyrch recriwtio’n parhau tan ganol 2011.
Bydd staff Cyfrifiad 2011 yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), a bydd Capita, sef contractiwr SYG, yn cynnal prosesau recriwtio a hyfforddiant ynghyd â gwasanaethau cyflogres.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i Gyfrifiad 2011, gallwch ymgeisio am swyddi presennol ar lein a chofrestru’ch diddordeb mewn swyddi eraill yn www.censusjobs.co.uk
26 July 2010