Croeso i adran Partneriaid Cyfrifiad 2011
Nod yr adran hon yw rhoi adnoddau, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd allweddol er mwyn cynorthwyo ein gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chyda grwpiau cymunedol wrth i ni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cyfrifiad nesaf.Mae gan awdurdodau lleol, arweinwyr cymunedol, athrawon, grwpiau hygyrchedd, arweinwyr ieuenctid, elusennau a phobl eraill wybodaeth a dealltwriaeth bwysig o’u cymunedau. Fe allai hynny ein helpu ni i addasu ein gweithgareddau cysylltu â'r gymuned er mwyn cyrraedd pawb a, chan gydweithio â chi, sicrhau cyfraddau dychwelyd uchel ar gyfer y cyfrifiad gan bob rhan o'r wlad a chan bob grŵp poblogaeth.
Dyma eich atgoffa o pam mae hi mor bwysig annog pawb i gymryd rhan.
Mae ystadegau'r cyfrifiad yn holl-bwysig i'n helpu i gynllunio at y dyfodol, a chânt eu defnyddio er mwyn:
- darparu gwybodaeth gywir ar niferoedd o bobl, ble maen nhw'n byw, eu nodweddion a'u hanghenion. Mae hyn yn helpu'r llywodraeth i benderfynu sut i ddyrannu adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
- helpu'r llywodraeth ganolog a llywodraethau lleol i gynllunio gwasanaethau lleol, gan gynnwys addysg, gofal iechyd a thrafnidiaeth
- pennu meincnod a diweddaru sylfaen ystadegol ar gyfer y boblogaeth a nifer y cartrefi, i'w defnyddio ledled pob sector
- cynnig mewnwelediad a gwybodaeth yn ei chyd-destun am ardaloedd a grwpiau poblogaeth bach
- cynorthwyo'r broses o ddatblygu a dadansoddi polisïau cyhoeddus






