Ymgyrchoedd recriwtio'r cyfrifiad - sut i helpu

Helpwch ni i ledaenu'r neges

Bydd y cyfrifiad yn digwydd ddydd Sul Mawrth 2011, a rhwng nawr a phryd hynny byddwn yn cynnal cyfres o ymgyrchoedd recriwtio er mwyn dod o hyd i'r staff priodol i gynnal gwaith y cyfrifiad. Rydym wedi dewis Capita i gynnal ein gweithgareddau recriwtio, hyfforddiant a chyflogres ar ein rhan ni.

Cynhelir cyfres o ymgyrchoedd recriwtio gydol 2010 a hoffwn i'ch awdurdod lleol ein helpu i hyrwyddo gweithgareddau recriwtio'r cyfrifiad drwy eich rhwydweithiau cyfathrebu arferol. Fel rheol, bydd gan weithwyr maes sy'n cael eu recriwtio drwy awdurdodau lleol wybodaeth arbennig o'u hardal a'u cymuned leol.

Caiff 35,000 o bobl eu recriwtio, gan gynnwys swyddogion gwirio cyfeiriadau, cydgysylltwyr gwirio cyfeiriadau, rheolwyr ardal y cyfrifiad, cynghorwyr cymunedol, cydgysylltwyr, casglwyr a chyfrifwyr arbennig. Bydd manylion pob swydd yn ymddangos pan fydd y swyddi hyn ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i:

Rheolwr Ardal

Cydgysylltwyr y cyfrifiad

Cyfrifwyr arbennig

Casglwyr y cyfrifiad

Rheolwyr rhanbarthol arolwg cwmpas y cyfrifiad

Rheolwyr tîm arolwg cwmpas y cyfrifiad

Cyfwelwyr arolwg cwmpas y cyfrifiad




Partneriaid
Gweithio i in
Myfywyr
Canolfan y cyfryngau