Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad
Er mwyn sicrhau bod canlyniadau'r cyfrifiad a gyhoeddir yn rhoi darlun cywir o'r boblogaeth, caiff arolwg annibynnol - Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad (ACC) - ei gynnal ar ôl y cyfrifiad. Caiff y cartrefi a'r bobl sy’n cael eu cyfrif yn yr ACC eu paru â'r rhai a gofnodir yn y cyfrifiad er mwyn i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol allu amcangyfrif faint o bobl na chawsant eu cynnwys yn holiadur y cyfrifiad a pha fath o bobl ydynt.
Yn wahanol i'r cyfrifiad, lle gofynnir i bob cartref lenwi holiadur, mae Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn gofyn i rywun ym mhob cartref mewn sampl o gartrefi gymryd rhan mewn cyfweliad byr ar garreg y drws i roi manylion sylfaenol ar bob person sy'n byw yno. Cynhelir cyfweliadau tebyg hefyd â phobl sy'n byw mewn 'sefydliadau cymunedol', fel tai llety neu gartrefi gofal.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Cyn cynnal Arolwg Cwmpas llawn y Cyfrifiad yn 2011, cynhelir ymarfer o'r arolwg ddiwedd 2009 i gyd-fynd ag Ymarfer 2009 y Cyfrifiad.
Bydd staff ACC yn cynnal gwaith maes yn yr ardaloedd canlynol ar yr amserau canlynol:
Arolwg |
Ardal |
Amser |
| Ymarfer Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad |
Ardaloedd yn Ynys Môn, Newham a Chaerhirfryn |
23 Tachwedd -17 Rhagfyr 2009 |
| Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad | Ardaloedd ledled Cymru a Lloegr | 9 Mai - 2 Mehefin 2011 |
Sut mae gwybod pwy sy’n gyfwelydd ACC?
Os daw cyfwelydd i ymweld â chi, gallwch sicrhau bod y cyfwelydd yn ddilys drwy ofyn am gael gweld ei gerdyn adnabod, a fydd yn nodi ei enw ac yn cynnwys ei lun. Ni fydd y cyfwelydd yn gofyn am gael mynd i mewn i'ch cartref. Os na fyddwch yn siŵr o hyd, ffoniwch Linell Gymorth Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad ar 0300 0200 935.
A fydd fy ngwybodaeth yn ddiogel?
Caiff y wybodaeth rydych yn ei darparu fel rhan o'r arolwg ei diogelu gan y gyfraith a'i thrin yn hollol gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol Awdurdod Ystadegau'r DU.







